| |
Pontypridd y'wr dref farchnad i gymoedd Rhondda, Cynon a Thaf. Daeth y dref i fod yn sgil twf diwydiant yn yr ardal yn y 19eg ganrif. Er nad yn hen iawn fel tref, mae hanes diddorol i Bontypridd, yn ogystal a llawer o afwynderau a werthafwrogir gan fordorion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Ardal wledig, brin ei phoblogaeth oedd hon tan ddechrau'r 19eg ganrif. Ychydig bellter sydd rhwng y dref ar lawr y dyffryn a'r bryniau ddigyffwrdd uwchben. Mae lllawer o hen ffermydd wedi goroesi, yn ogystal â'r eglwysi canoloesol lle byddai'r gymdeithas amaethyddol yn dod at ei gilydd ers talwm iawn.
Codi'r bont garreg ar draws Afon Taf fu argoel gyntaf y newidiadau, yn y flwyddyn 1756. Daeth hon yn arwyddnod i'r dref gyfan, a hanes helbulus ei chodi yn rhan o chwedloniaeth y fro. Gweinidog Anghydffurfiol a saer maen hunanddysgedig oedd ei hadeiladydd, a dechreuodd drwy godi pont dri bwa ar batrwm confensiynol, ond ysgubwyd hon i ffwrdd mewn un o'r llifogydd gaeaf sy'n codi yn aml ar Afon Taf. Ar ôl dwy drychineb bellach, penderfynodd godi pont un bwa, a hon oedd yr hiraf o'i math yn Ewrop am gryn ganrif. Saif y bont ar gyrion gogleddol y dref o hyd, a chafodd ei thrwsio a'i hadfer yn helaeth ym 1997.
Dechreuodd gwir ddatblygiad y dref ar ôl agor Camlas Morgannwg o Ferthyr i Gaerdydd ym 1794. O Ferthyr y deuai'r haearn gorau yn y byd, a thrwy Bontypridd y gellid cael gafael ar lo o ansawdd uchel. Oherwydd hyn oll y daeth diwydiant o bwys i'r dref am y tro cyntaf, ym 1818, pan ddaeth Gwaith Cadwyni Brown Lennox i'r dref. Er bod Pontypridd mor bell o'r môr, felly, yma y câi ceblau cadwyn ac anhgorau eu cynhyrchu i longau masnach a rhyfel fel ei gilydd. Cêbl y Queen Elizabeth II oed yr olaf i'w wneud yma. Pan gaewyd y gweithle ym Mis Mawrth 2000, daeth diwedd ar ddwy ganrif o berthynas rhwng y dref a'r cwmni.
Yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ehangodd diwydiant y dref i gynnwys melin gledrau, ffwndrïau, ac un o'r gweithfyedd tunplat mwyaf ym Mhrydain. Adeiladwyd y rhan fwyaf o faestrefi presennol Pontypridd fel pentrefi glofaol: Cilfynydd ar gyfer golfa'r Albion, Maesycoed i'r Albion, a Threhopcyn i Dþ Mawr.
Ar wahan i hen lofa Lewis Merthyr, dwy filltir o ganol y dref, nid erys prin dim tystiolaeth faterol o'r cyfnod. Trowyd Lewis Merthyr yn Ganolfan Etifeddiaeth y Rhondda, Seilwyd Prifysgol newydd Morgannwg o gwmpas yr hen ysgol fwyngloddio. Hanner milltir i lawr yr afon o hen adeiladau'r Gwaith Tunplat, mae Ystâd Ddiwydiannoi Trefforest, lle mae cryn gant o gwmnïau yn cynhyrchu rhychwant eang o nwyddau yn amrywio o ffabrigau ac electronig.
O ganlyniad i'r hanes cyffrous yma, mae gan Bontypridd etifeddiaeth deg a chyfoethog fel tref farchnad yn ganolbwynt i ardal o bentrefi diwydiannol, ac fel cymdeithas lle mae ffiniau diwylliannol yn symud o'i mewn. Cynyddodd poblogaeth y dref ar garlam gwyllt tua dechrau'r ugeinfed ganrif, gyda llawer yn dod o Loegr, iwerddon, a gwleydd pellach byth. Am gyfnod fe ymddangosai nad tref Gymreig mo Bontypridd o gwbl, ond erbyn hyn mae tua chwarter plant cynradd y dref yn mynychu ysgolion Cymraeg. Fe ymddengys cymdeithas ddwyieithog yn bosibilrwydd hyfyw o'r newydd.
|
|
|
 |